Cefndir
Cwmni cydweithredol o ffermwyr wedi’i leoli yn Sir Benfro yw Calon Wen. Mae’n cyflenwi llaeth a chynnyrch llaeth organig i’r prif archfarchnadoedd, bwytai, gwestai a phrynwyr ledled y DU. Pedwar o aelodau a sefydlodd Calon Wen yn wreiddiol, ond bellach mae’r cwmni wedi tyfu i gynnwys mwy nag ugain o aelodau.
Gwaith
Brandio, ymchwil defnyddwyr, pecynnu cynnyrch (llaeth, menyn a chaws), hysbysebu, dylunio ac adeiladu arddangosfa, dylunio a datblygu’r we.