Meddwl

Meddwl am Osod Brandiau


Os ydych yn credu mai’r brand yw y gorfforaeth ac felly yn gyfrifoldeb ar bawb o fewn y gorfforaeth, yna rydym yn meddwl ar yr un llinellau.
Yn Stills rydym yn deall ystyr, goblygiadau a gwir fanteision brandio. O gael ei ddefnyddio yn effeithiol, gall brandio gael effeithiau positif dwys ar gorfforaeth yn fewnol ac yn allanol. Gall brandio ychwanegu gwerth at brofiad y cwsmer ond hefyd gall chwarae rhan mewn atynu y rhanddeiliaid i gyd. Yn ddelfrydol dylai pob aelod o gorfforaeth fod yn hyrwyddwr i’r brand a dylai pob man cyswllt a ffurf ar gysylltiadau gyflwyno prif negeseuon y brand.

Dylai ychwanegu gwerth at eich brand fod yn ystyriaeth flaenllaw ichi
Nid ychwanegu gwerth yw’r peth blaenaf ar y meddwl neu’r brif ysytiaeth wastad wrth ddatblygu brand. Serch hynny, mae’n rhan sylfaenol o’r broses. Mae yna nifer o rannau yn cyfrannu at werth ac fe ellir ei ychwanegu mewn sawl ffordd. I’r rhan fwyaf o gorfforaethau, dylai’r ffyrdd hyn i gyd fod yn weladwy yn glir ar y llinell waelod. Yn Stills, credwn mai dim ond wrth ddeall corfforaeth, ei marchnadoedd a’i chwsmeriaid, y gellir dechrau ychwanegu gwir werth. Mae ein prosesau wedi eu cynllunio’n fanwl i gynnig gwerth drwy ddeall, mewnwelediad ac yn y pen draw drwy gyflwyno negeseuon brand eglur. Un o’r ffyrdd y byddwn yn cyflwyno negeseuon brand yw drwy dylunio a iaith.

Gall dylunio ystyriol ychwanegu gwir werth at gymeriad eich brand
Mae dylunio cymeriad brand yn rhan annatod o’r broses frandio. Dyma’r un peth y medr y cwsmeriaid uniaethu’n wirioneddol ag ef, yn aml yn fwy na dim byd arall. Bydd cymeriad brand yn gweithio fel llaw fer i ddeall y cynnyrch neu wasanaeth sy’n gael ei gynnig. Mae’n helpu’r cwsmer i wneud dewisiadau cyflymach ar sail gwybodaeth, pan yn aml iawn mae yna ormod o ddewis. Dim ond drwy ddeall y busnes, y marchnadoedd a’r elfennau sy’n gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw ac yn atyniadol i’r cwsmer y gall gwir werth gael ei ychwanegu.
 
Mae’r prosesau sydd gennym i ddatblygu cymeriad a iaith brand wedi profi’n effeithiol dros ben i nifer o gorfforaethau. Gallwn eich helpu chi.

Os oes gennych sialens neu nod gymdeithasol, cysylltwch â ni ac fe edrychwn arni ar y cyd.
Pe hoffech ddod i’n adnabod yn well a thrafod sut y medrwn ychwanegu gwerth at eich brand, galwch ni ar 029 2035 3940 neu ebostiwch james@stillsdesign.com.