Meddwl

Gwir Werth Gwerth


Gwerth. Mae’n un o’r bri-eiriau sy’n cael ei goleddu’n fawr ym myd busnes. Ond er bod pawb yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwerth, pur anaml y byddwn ni’n meddwl am wir ystyr y gair.
 
Ystyr ‘value’ (gwerth) yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen yw:
 
“Y parch neu’r pwysigrwydd y mae gwrthrych yn ei haeddu ym marn pobl ”
 
Felly, canfyddiad ydyw - cysyniad haniaethol, cyfnewidiol, cymhleth a ddiffinnir gan y sawl sy’n derbyn yn hytrach na’r sawl sy’n darparu. Yn syml, gwerth yw’r hyn a gaiff cwsmer gan fusnes yn hytrach na’r hyn y mae busnes yn ei roi iddo.
 
Yn anochel, mae hyn yn creu her i fusnesau. Sut allwn ni gadw pawb yn hapus mewn marchnad lle mae ystyr gwerth yn amrywio o’r naill gwsmer i’r llall? Mae gwahaniaethau o ran chwaeth, gwybodaeth, agwedd, diwylliant, profiad, pŵer prynu a’r gallu i brynu oll yn dylanwadu ar ganfyddiad unigolyn o werth. Serch hynny, mae ychwanegu gwerth at eich cynnyrch neu wasanaeth yn bwysicach nag erioed i sicrhau eich bod yn ennill y fantais hanfodol mewn marchnad sy’n fwyfwy cystadleuol a heriol.
 
Gan hynny, mae’n hanfodol i unrhyw sefydliad ddeall sut mae gwerth yn cael ei ychwanegu ym mhob agwedd ar brofiad y cwsmer. Mae ein ffordd o drin cwsmeriaid, ein hymateb iddynt, yr hyn a ddywedwn wrthynt a’u barn ynglŷn â’n rhinweddau, yn ogystal â’n cynnyrch a’n prisiau yn dylanwadu ar werth. Cydnabyddir yn eang bod cysylltiad cryf rhwng ffyddlondeb ac elw a gwerth i’r cwsmeriaid, ac na fydd cwsmer ond yn ffyddlon os cynigir gwerth uwch.
 
Dim ond drwy ddeall eich brand, y farchnad, defnyddwyr a’r elfennau sy’n gwneud eich cynnyrch neu wasanaeth yn unigryw ac yn atyniadol, y gallwch ychwanegu gwir werth. Un o’r heriau mwyaf a wynebwn mewn marchnata yw dynodi ac olrhain yr hyn sy’n gyrru gwerth ymysg mathau amrywiol o gwsmeriaid neu segmentau.

Ychwanegu Gwerth i’r Cwsmer Drwy Ddyluniadau
Un o’r nifer o feysydd lle gellir ychwanegu gwerth uwch yw dylunio – boed hynny’n ddyluniad y nod masnach, deunydd ysgrifenedig ar gyfer gwerthu, stondin mewn arddangosfa, dyluniad mewnol swyddfa neu becynnu cynnyrch. Mae’n rhan annatod o’r broses gwerth. Dyluniad yw un o’r agweddau mwyaf amlwg y gall defnyddwyr ymberthnasu â hi, yn anad dim arall yn aml. Y rheswm pennaf am hyn yw bod hunaniaeth brand fel dull llaw-fer o gyfleu negeseuon allweddol y cynnyrch neu’r gwasanaeth. Yn aml, mae’n helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau cyflymach sy’n seiliedig ar wybodaeth pan fydd gormod o ddewis ar gael.
 
Gallwch weld gwerth dyluniad ardderchog yn glir ar holl silffoedd yr archfarchnad. Yn aml, bydd prynwyr yn gwneud penderfyniadau ar y funud yn seiliedig ar ddim mwy na delwedd y brand a bortreadir drwy ddyluniad y pecyn. Mae’n golygu ymuniaethu â ffordd o fyw, safon byw a chyfres o werthoedd.  
 
Sylwodd y cynhyrchydd bwyd organig Cymreig, Calon Wen ar werth posibl defnyddio dyluniadau i gryfhau delwedd ei frand. Er mwyn sicrhau lle i’w frand fel prif ddarparydd cynnyrch bwyd organig Cymru, roedd angen ei ailwampio’n llwyr. Yn dilyn ymchwil fanwl, adolygwyd yr holl frand gan ddefnyddio ein proses Glasbrint Brand unigryw. Drwy hynny, roedd modd i ni ganfod sut ac ymhle y gallai dylunio ychwanegu gwerth at y busnes drwy ychwanegu gwerth at brofiad y cwsmer.
 
Ail-lansiwyd y brand gyda phecynnau, deunyddiau hysbysebu, cynnyrch hyrwyddol a gwefan newydd. Roedd y canlyniadau’n ennyn ysbrydoliaeth. Mae’r brand bellach yn gallu cystadlu’n llwyddiannus mewn marchnad a oedd gynt yn anghyraeddadwy, ac yn enghraifft ddisglair o achlysur pan ddefnyddiwyd dyluniad  i ychwanegu gwerth amlwg i’r cwsmer.
 
Gall ychwanegu gwerth gwirioneddol i’r cwsmer yn eich busnes fod yn her gyffrous, a gall arwain at enillion sylweddol.

Mae nifer o sefydliadau wedi canfod bod ein prosesau ychwanegu gwerth at frandiau yn hynod effeithiol. Os hoffech chi ddod i’n hadnabod ni’n well a thrafod sut y gallwn ychwanegu gwerth i’ch brand, ffoniwch ni ar 029 2035 3940 neu anfonwch e-bost at  anna@stillsdesign.com