Newyddion

Dewi Sant 2


Stills yn helpu Dewi Sant 2 i adeiladu ar eu llwyddiant.

Datblygiad newydd cyffrous sy’n dod i Brifddinas Cymru yw ‘Dewi Sant 2’. Pan gaiff ei agor yn 2009, bydd y datblygiad yn cyfoethogi y siopa a’r preswylio dinesig sydd nawr i’w cael yng Nghaerdydd.

Fel un o’r datblygiadau dinesig mwyaf pwysig yn y DU heddiw ac ar hyn o bryd y buddsoddiad ariannol preifat mwyaf yng Nghymru, mae’r cynllun yn adeiladu ar asedion presennol gan gynnwys y Ganolfan Siopa Dewi Sant bresennol a llawer o’r Aes. Bydd y cynllun yn trawsnewid pen Deheuol y Ddinas gan roi bywyd newydd i ardal sy’n cael ei than-ddefnyddio ar hyn o bryd drwy greu gofodau cyhoeddus deniadol a diogel at fwyniant y cyhoedd, ynghyd â gofod manwerthu cyfoes unigryw a chyffrous fydd yn diwallu anghenion siopwyr yr 21ain ganrif.

Mae Stills wrth ei fodd i gael ei ddewis gan Dewi Sant 2 i ddarparu cefnogaeth farchnata angenrheidiol ac i helpu cyfathrebu manylion a phwysigrwydd y prosiect a’r hyn mae’n ei olygu i Gaerdydd, ac i’r gymuned leol a mwy eang. Meddai Chris Carpenter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stills, “Mae Dewi Sant 2 yn amwlg ar orwel dinas Caerdydd. Nid oes prosiect mwy o faint o’i fath yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o gael ein cysylltu ag ef. Mae’r gwaith wedi bod yn sialens, yn enwedig cynhyrchu a chodi’r cannoedd o fetrau o waith graffig sydd ar y palisau.”

Mae Stills wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu golwg unigryw Dewi Sant a chymhwyso honno i’r palisau, ardaloedd hysbysu a chyflwyniadau aml-gyfrwng. Meddai Chris ymhellach, “Mae’r prosiect yn mynd rhagddo ar frys ac mae yn gymaint yn fwy i’w wneud. Mae’r cwsmeriaid yn ysu am y wybodaeth ddiweddaraf a rhan o’n gwaith yw cefnogi tîm Dewi Sant i ddarparu hynny.”

Meddai llefarydd ar ran Dewi Sant, “Mae’r datblygiad yn ganolog i ddyfodol Caerdydd am nifer o resymau. Nid yn unig y daw â buddsoddiad sylweddol i’r ardal. Ynghyd â John Lewis, sydd yn agor ei siop adrannol gyntaf yng Nghymru drwy ‘Dewi Sant 2’, gobeithiwn sicrhau nifer o fanwerthwyr i’r ddinas am y tro cyntaf. Ar y cyd â nifer o ddatblygiadau eraill o bwys yn y brifddinas, daw ‘Dewi Sant 2’ â chyfle gwych i wneud cyfraniad at ddatblygiad Caerdydd fel cyrchfan Ewropeaidd o bwys. Mae Stills wedi bod yn bwysig iawn yn ein cefnogi wrth gyfleu manylion y prosiect i drigolion Caerdydd a Chymru gyfan.”

Very Wise


Stills yn cynnig ychwanegiad o bwys i VeryWise

Sefydlwyd VeryWise® Nutrition i ddod â dimensiwn newydd mewn ychwanegiadau maeth arloesol â chefnogaeth gwyddonol i’r cwsmer.

Enillodd Stills y prosiect gwefan yn seiliedig ar eu gwaith a’u profiad blaenorol mewn datblygiad i’r we. Meddai Chris, rheolwr gyfarwyddwr a rheolwr prosiect Stills, “Mae gwefan VeryWise wedi bod yn ddiddorol ac yn her. Mae’r gwaith nawr wedi ei gwblhau ac rydym yn falch iawn ohono.”

Meddai llefarydd ar ran VeryWise, “Mae ein cwmni rhiant yn cyflenwi rhai o frandiau manwerthu mwyaf y DU â’u hychwanegiadau ar label eu hunain; VeryWise yw ein brand label ein hunain. Dim ond ar-lein y byddwn yn gwerthu felly mae ein gwefan o’r pwys mwyaf inni. Rydym wrth ein boddau â Stills a’r ffordd y maent wedi dylunio a datblygu ein gwefan. Maent wedi deall ein briff a’n busnes, ac wedi cyflenwi gwefan sydd nid yn unig yn gweithio’n hynod effeithiol, ond hefyd yn mynegi prif negeseuon ein brand.”

Mae cydweithio rhwng Stills a VeryWise yn parhau wrth iddynt ddatblygu gefan cymharu ychwangeiadau newydd fydd yn gweddnewid sut mae’r cyhoedd yn cael gwybodaeth am ac yn prynu ychwanegiadau.

Confused.com


Stills yn creu golwg newydd i Confused.com

Mae un o’r cwmnïau ar-lein sydd yn tyfu gyflymaf yn y DU wedi galw ar yr arbenigwyr dylunio o Gaerdydd, Stills, i roi golwg newydd iddynt.

Gwefan fwyaf y wlad ar gyfer cymharu prisiau yswiriant ceir yw Confused.com bellach, ac mae hefyd wedi ennill 17 y cant o’r farchnad yswiriant cartref ac wrthi’n tyfu ymhellach.

Ers ei sefydlu lai na 6 mlynedd yn ôl, mae twf sydyn y busnes wedi creu galw am ail-wampio gwaith dylunio gwefan Confused.com er mwyn cadw ei awch cystadleuol, a darparu ar gyfer y gwasanaethau newydd megis yswiriant, ariannu, moduro a chynhyrchion gogyfer â gwasanaethau, a sicrhau bod profiad y cwsmer fel defnyddiwr y gorau y gall fod.

Llwyddodd Stills, sydd â thîm o 12 o ddylunwyr yn gweithio mewn eglwys wedi ei haddasu yng Nghaerdydd, i guro nifer o asiantaethau eraill i ennill y cytundeb ail-ddatblygu.“Er bod Confused.com yn dal yn ei blentyndod mae eisioes wedi gwneud argraff enfawr yn y farchnad gymharu prisiau yswiriant, a dyma un o lwyddiannau mawr y we ym Mhrydain, sydd yn dal i dyfu yn rhyfeddol o gyflym,” meddai Rheolwr Marchnata Stills, James Horsham.

“O fod yn ymwybodol bod Confused.com eisioes yn perfformio’n arbennig o dda, roeddem yn awyddus i sicrhau y byddai popeth a wnaem yn cadw’r hyn oedd yn hawdd ei adnabod ac yn gofiadwy am y safle yn barod, a’i gyfoethogi lle roeddem yn credu y gallem ychwanegu’r werth fwyaf. Mae’r safle newydd nawr yn edrych yn fwy ffres o lawer ac wedi ei threfnu’n well na’r hen safle; ac mae hyn wedi gwella profiad y cwsmer yn barod.”

Ar yr un pryd â’r gwaith ail-ddylunio, bu Stills yn cydweithio â’i gwmni partner Fusion i adeiladu prototeip o wefan newydd Confused.com er mwyn iddi gael ei threialu cyn ei lawnsio.

Enact


Stills yn twymo pethau i Enact

Wedi ei sefydlu ym 1996, mae Enact wedi bod yn rheoli rhaglenni grantiau arbed ynni i’r cartref ers dros 10 mlynedd, â’r rhain wedi ennill gwobrwyon. Un o brosiectau hynaf a mwyaf llwyddiannus arbed ynni y DU â chefnogaeth awdurdodau lleol yw HEAT, y brand a ddefnyddir gan Enact i farchnata’r mesurau arbed ynni.

Yn ddiweddar cafodd yr asiantaeth gysylltiadau brand o Gaerdydd, Stills, ei gomisiynu i adolygu ac i ddatblygu y ddau frand. Mae hyn yn rhan o ymgyrch ystyrlon i gyfleu cymwysterau gwyrdd arbed carbon Enact.

Meddai Rheolwr Marchnata Stills, James Horsham, “Rydym wrth ein boddau i gael ein dewis gan Enact i ddatblygu eu brandiau gan fod arbed ynni ar hyn o bryd yn faes amserol a phwysig dros ben. Beth medr Enact ei wneud yw helpu pobl i leihau ar eu hôl-troed carbon, a’r hyn y mae Stills wedi ei wneud yw i sicrhau bod y cwsmer yn deall hyn drwy ddatblygu brand Enact fel ei fod yn cyfleu negeseuon allweddol y brand yn fwy cynnil ac yn fwy effeithlon.”     

Mae Stills wedi datblygu cymeriad gweledol newydd gan gynnwys logos, golwg a theimlad cyffredinol, llenyddiaeth, marchnata uniongyrchol, hysbysebu, gwefannau etc. Meddai Paul Johnson, Rheolwr Gweithredoedd Enact, “Mae Stills wedi ychwanegu gwir werth at ein brandiau drwy eu gwaith dylunio. Mae eu prosesau, eu creadigrwydd a’r ffordd mae wedi ei gymhwyso, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n busnes a sut y byddwn yn cael ei gweld. Mae gennym gyfathrach lawer gwell â’n cwsmeriaid.”

“Mae cyflwyniad y brand newydd nawr bron yn gyflawn. Serch hynny, mae ein cynlluniau ehangu yn dal yn ifanc ac mae yna lawer o waith i’w wneud. Edrychwn ymlaen at barhau â’n perthynas â Stills, ac at y gefnogaeth y gallant ei chynnig inni am sawl blwyddyn i ddod.”

Anna Lewis


Busnes yn llewyrchus i’r asiantaeth frandiau Gymreig Stills

Mae’r asiantaeth gysylltiadau brand o Gaerdydd, Stills, wedi penodi Anna Lewis yn Rheolydd Datblygu Busnes i fynd ymlaen â’r gwaith o adeiladu presenoldeb Stills yn y DU.

Bydd Anna, 28, sydd wedi gweithio cyn hyn fel Rheolydd Cyfryngau i Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gyfrifol am ddarganfod cyfleoedd busnes newydd a datblygu perthnasoedd â’r cleientiaid. Daw Anna gyda chyfoeth o brofiad mewn gwerthiant a marchnata. Bydd yn ychwanegu gwerth nodweddiadol i’r hyn mae Stills eisioes yn ei gynnig o ran brandio, dylunio a datblygu i’r rhyngrwyd.

Hi yw’r pumed apwyntiad newydd yn Stills yn ystod y tri mis diwethaf wrth i fusnes yn yr asiantaeth ffynnu fwyfwy, gan fynd â’r tîm gyd at 14 o bobl. Ymhlith y cleientiaid newydd sydd wedi dod ar y bwrdd mae Calon Wen, Confused.com, y Bathdy Brenhinol, XFM a gwneuthurwr ystafelloedd ymolchi a cheginau Sigma 3.

Meddai rheolwr gyfarwyddwr Stills Chris Carpenter, “Mae penodiad Anna yn dynodi amser cyffrous dros ben i Stills. Mae gwaith brandio a dylunio yn ffynnu yng Nghymru ond rydym yn derbyn cytundebau o bob cwr o’r DU – yn aml fel canlyniad i gymeradwyaeth personol.”

Sigma 3


Stills i ail-wampio Sigma 3
 
Mae’r gwneuthurwr ceginau ac ystafelloedd gwely o Dde Cymru, Sigma 3, wedi cael ei ail-wampio’n drylwyr gan yr asiantaeth gysylltiadau brand o Gaerdydd, Stills.

Erys yr enw yr un fath – Sigma 3 – ond mae’r brand yn cael ei wneud yn fwy deniadol i’r cwsmeriaid.

“Fe ddechreuodd yn hwyr yn 2006 pan fuom ni yn cynnal ymchwil demograffig a dealltwriaeth brand er mwyn diffinio proffiliau cwsmeriaid a deall yn well sut roedd cwsmeriaid yn ymwneud â’r brand,” meddai rheolwr marchnata Stills, James Horsham.

“Fe gynhaliom dros 1,000 o gyfweliadau dros y ffôn er mwyn creu proffiliau clir o gwsmeriaid Sigma 3. Roedd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth am eu hoedran, gender, incwm, gwerthoedd y cartref etc. Buom hefyd yn rhedeg grwpiau ffocws cwsmeriaid a staff yn Lloegr a Chymru er mwyn cael gwell ddealltwriaeth o sut roeddent yn ymwneud â’r brand.

“O hyn oll fe greom lasbrint brand ar gyfer Sigma 3 oedd yn diffinio gwerthoedd, cymeriad a chysylltiadau i’r brand. Fe ddefnyddiom y wybodaeth hon fel y briff i ddatblygu cymeriad gweledol y brand gan gynnwys logos, strwythur brand, defnydd lliw, delweddau, ystodau, iaith, dylunio gwaith argraffu, arwyddion etc.

“Mae’n cael ei roi ar waith drwy’r busnes ar hyn o bryd, a hyd yn oed yn y dyddiau cynnar mae’n creu argraff bositif gyda chwsmeriaid Sigma 3.”

Ac roedd rheolwraig farchnata Sigma 3, Paula Morris, wrth ei bodd â’r gwaith ail-wampio hefyd. “Ar ôl mwy na 30 mlynedd yn y busnes, roeddem yn teimlo ei fod yn hen bryd rhoi gwedd newydd i’r brand. Mae gan Sigma 3 enw da aruthrol a sylfaen cwsmeriaid teyrngar, felly roedd yn bwysig peidio cael gwared â’r da ynghyd â’r drwg wrth asesu a datblygu ein cymeriad gweledol.

“Bu Stills yn ein cynghori i wneud peth gwaith ymchwil cyn dim byd arall, a dyma o ddifri oedd asgwrn cefn yr holl waith ail-frandio, ac fe’n helpodd i ddiffinio ein gwerthoedd dros y brand. Yna fe gynigiodd Stills ateb creadigol inni sydd yn cyfleu yn union pwy ydym ni a’r hyn yr ydym yn ei gynrychioli.

“Gan brofi eu gallu i ddefnyddio eu creadigrwydd mewn sefyllfaoedd ymarferol, mae Stills wedi bod yn glyfar iawn wrth ddatblygu a chymhwyso ein cymeriad gweledol i ffitio ein 12 o ystafelloedd arddangos, sydd i gyd yn dra gwahanol i’w gilydd, ein llynges o gerbydau cyflenwi, ein gwaith hysbysebu, papur ysgrifennu, y wefan… ac yn y blaen. Nawr mae gennym gymeriad ffres, cyfoes i’r gorfforaeth ac rydym yn ffyddiog y bydd hyn yn allweddol yn ein cynlluniau ehangu uchelgeisiol.

Mae cyflwyniad y brand newydd bron wedi ei gwblhau ac yn cyffwrdd â phob cwr o’r busnes, o’i ffatri yn Llantrisant yn Ne Cymru, i lifrai y cerbydau cyflenwi i gyd a’r pump o ystafelloedd arddangos yn Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd a Warton yn Swydd Gaerhirfryn.

Ac mae proses debyg yn mynd yn ei blaen gyda brand County Kitchens and Bedrooms Sigma 3 – y brand sydd gan y cwmni yn Lloegr, lle mae ganddo nifer o ystafelloedd arddangos.

Apwyntiadau Newydd


Asiantaeth ddylunio Gymreig Stills yn ehangu

Mae’r cwmni cysylltiadau brand Stills yn penodi pedwar o staff newydd er mwyn ymgodymu â chynnydd yn y cytundebau dylunio maent wedi eu hennill.

Mae’r ddylunwraig newydd Vicki Ashurst, y rheolwraig gynhyrchu Kathryn Marsh a’r gynorthwy-ydd gynhyrchu Ceri Mears newydd ddechrau gyda’r asiantaeth o Gaerdydd. Yn ogystal, mae yna swydd wag ar gyfer rheolwr busnes newydd.

Mae cartref y cwmni mewn capel wedi ei addasu o fewn pellter cerdded i ganol dinas Caerdydd. “Mae’n awyrgylch gyffrous a chreadigol ac mae natur ein gwaith yn eang dros ben – o ddatblygu brandiau i wefannau a ffilmiau,” meddai’r Rheolwr Marchnata James Horsham.

Mae’r asiantaeth yn ddiweddar wedi ennill cytundebau o bob cwr o’r DU: o Orllewin Lloegr gyda’r ymgynghorwyr arbed ynni Enact, o Lundain gyda’r ymgynghorwyr olew a nwy Energy and Power a’r cwmni chwilio am olew Fox Oil, o Cheltenham gyda Lyndon Design ac o Lerpwl gyda’r cwmni o gyfreithwyr Silverbeck Rymer.

Yn agosach at gartref yng Nghymru maent hefyd wedi dechrau ar gytundebau gyda Cambrian Organics, Confused.com – cangen o Admiral Insurance, Cyngor Caerdydd a’r gwneuthurwr ystafelloedd gwely a cheginau Sigma 3 o Lantrisant.

“Fe fu cynnydd mewn gwaith dylunio yng Nghymru dros ryw bum mlynedd bellach, ac fel un o’r asiantaethau hynaf rydym mewn lle da i elwa o hyn,” meddai James Horsham.

“Ond fe ddaw llawer o’n gwaith drwy air da. Mae gan nifer o’r cwmnïau y byddwn yn cydweitho â nhw broffiliau cenedlaethol, a phan byddant yn ein cymeradwyo i gwmnïau eraill mae’n mynd â ni i bob cwr o’r wlad. Nid yw lleoliad daearyddol fel petai’n ffactor yn y busnes dylunio bellach.”

Calon Wen


Cwmni cydweithredol o ffermwyr o Sir Benfro yw Llaeth Organig Calon Wen, â’u haelodau yn ffermydd llaeth organig teuluol ar hyd a lled Cymru. Maent yn cyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth organig i fanwerthwyr, tai bwyta, gwestai a chwsmeriaid drwy Gymru a Lloegr. Mae’r cwmni cydweithredol wedi tyfu o bedwar aelod a’i sefydlodd hyd at dros ugain.

Apwyntiwyd Stills gan Calon Wen i ddatblygu cymeriad gweledol eu brand a gwaith pacio eu llaeth, menyn a chaws, yn ogystal â hysbysebu. Gellir gweld y cynhyrchion yn eu pacedi newydd ar silffoedd yr archfarchnadoedd.

Eco Becynnau


Y cwmni o Gaerdydd, Stills, y tu ôl i chwyldro eco-gyfeillgar mewn llaeth

Mae ffordd newydd chwyldroadol o brynu llaeth fydd yn helpu’r amgylchedd yn cael ei dreialu yn y DU gyda chymorth y cwmni dylunio o Gaerdydd, Stills.

Anghofiwch am y polibotel a’r carton – mewn “eco becynnau” y bydd siopwyr yn mynd â’u llaeth adref cyn hir.

Aeth y pecynnau ffilm cryf yn cynnwys llaeth organig Calon Wen ar werth yn archfarchnadoedd Waitrose fis diwethaf ynghyd â phiseri llaeth y gellir eu hail-ddefnyddio sy’n ffitio mewn drws unrhyw rewgell. Maent yn dal un eco becyn ar y tro a gellir cyfnewid rhain yn hawdd pan fo angen.

Cynlluniwyd y labeli ar gyfer yr eco becynnau newydd a’r lifrai ar gyfer y bocsys dosbarthu sy’n eu dal ar y silffoedd ynghyd â’r bocsys o biseri wrth eu hochr yng nghynteddau archfarchnadoedd Waitrose i gyd gan Stills o Gaerdydd.

Meddai cyfarwyddwr creadigol y cwmni David Lea, “Ein bwriad oedd creu brand fyddai’n cysylltu’r cynnyrch llaeth organig yn uniongyrchol â’r fferm, a’r gwerthoedd yw gofal am yr amgylchedd, purdeb naturuiol a bywyd gwledig iachus.

“Ac roeddem eisiau sicrhau nad oedd unrhyw amheuaeth gan siopwyr fod Calon Wen yn gynnyrch ag ôl gofal arno sy’n dod o ffermydd organig lleol yng nghefn gwlad Cymru, o’r Gorllewin hyd Eryri.”

Gan ddefnyddio 75% yn llai o ddeunydd plastig na polibotel o’r un cyfaint, bydd yr eco becynnau a’r piseri yn ddeniadol iawn i’r nifer cynyddol o siopwyr sy’n ymwybodol o’r amgylchedd. Pe bai system yr eco becynnau a’r piseri yn ddigon llwyddiannus i gymryd lle poliboteli yn gyfangwbl, byddai bron i 100,000 o dunelli o blastig yn cael eu harbed bob blwyddyn yr y DU.

Bydd y piser, ynghyd ag eco becynnau o laeth sgim, hanner sgim a chyfan, ar gael mewn tri changen o Waitrose yng Nghymru, 17 arall yn Llundain ac un yng Nghaerfaddon. Os bydd yn llwyddiannus, gellid ei gyflwyno ar hyd y gadwyn o archfarnadoedd.

Ymchwil Uwic


Mae gan UWIC (Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd) gymuned ffyniannus o ymchwilwyr ac academyddion sydd wrthi yn gwneud gwaith ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth ac ysgolheictod uwch ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. Mae creu cynnydd mewn agenda ymchwil UWIC a gyrfaoedd ei ymchwilwyr yn elfen allweddol yn strategaeth y Brifysgol ar gyfer y dyfodol.

Dewiswyd Stills i ddatblygu gwefan ymchwil bwrpasol i UWIC, wedi ei hanelu at ddarpar fyfyrwyr, busnesau ac academyddion.

Cyngor Chwaraeon Cymru


Mae prif swyddfa Cyngor Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a dyma’r gorfforaeth genedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a hamdden. Fe’i sefydlwyd ym 1972 a’r Cyngor yw prif ymgynghorydd Llywodraeth y Cynulliad ar faterion chwaraeon. Mae CCC hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu arian y loteri yng Nghymru ac yn cyflogi rhyw 170 o staff yn lleol ac yn genedlaethol.

Apwyntiwyd Stills i ddatblygu enw a chymeriad gweledol brand ar gyfer Menter Chwaraeon Ysgolion Uwchradd (teitl dros dro). Cynllun newydd yw hwn gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer o fentrau chwaraeon mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru. Fersiwn i ddisgyblion hŷn yw hon o gynllun Campau’r Ddraig, a anelir at ddisgyblion 7-11 oed. Bydd y cynllun newydd yn targedu disgyblion 11-18 oed. Ymhlith y pethau eraill y byddwn yn eu cyflenwi mae gwahanol eitemau o lenyddiaeth a gwefan.

Dragon DI


Dragon DI yw’r unig gyfleuster yn y byd sy’n benodol ar gyfer digidol rhyngol (DI), yn arbenigo mewn dim ond darparu’r gwasanaeth gorau o’i fath am ddigidol rhyngol ac adferiad.

Mae Dragon DI wedi buddsoddi mwy na £2 filiwn mewn creu cyfleustra DI o’r radd flaenaf. Wrth graidd y cyfleuster mae theatr raddio, ynghyd â sgrin anferthol 7-metr (y fwyaf yn y DU) a weinyddir â’r gorau mewn tafluniad digidol a ffilm. Yma, mae maint y theatr raddio yn dod â phrosiectau’n fyw, gan ganiatáu i’r cleientiaid weld eu ffilm mewn cyd-destun profiad sinema go-iawn, hyd yn oed pan bydd gwaith yn dal yn cael ei wneud arni.

Bu Stills yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu brand Dragon DI gan gynnwys creu enw’r cwmni, y nod masnach, a’r holl ddeunyddiau cysylltiadau gan gynnwys llenyddiaeth ar-lein a phrintiedig. Bu Stills hefyd yn gyfrifol am drefnu lawnsio’r cyfleuster newydd, lle bu Jack Cardiff, y sinematograffydd a enillodd ddau Oscar, yn dadlennu plac cofnodi i farcio’r achlysur. Yna symudodd y digwyddiad i westy’r Park Plaza yng Nghaerdydd, lle’r oedd Stills wedi trefnu i’r gwesteion gymryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus â Jack Cardiff.

Liquid 247


Mae un o gwmnïau talu ar-lein mwyaf y DU wedi datblygu e-waled newydd sydd yn delio â diffygion dulliau eraill o dalu, yn lleihau costiau, yn tynnu nifer o ddulliau talu ynghyd ac yn cynnig nifer o fanteision gweithredol eraill.

Mae sefydlwyr Liquid 247 yn rhagweld cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau e-waled yn y dyfodol agos, a fe gaiff y tyb hwn ei gadarnhau drwy sgyrsiau gyda gwerthwyr dros y rhyngrwyd o safon byd-eang, gwerthwyr sydd eisioes â chysylltiadiadau masnachol â sefydlwyr Liquid 247.

Penodwyd Stills i greu brand newydd a gaiff ei lawnsio yn y lle cyntaf yng Ngogledd America ac sy’n cynnwys nod masnach, cymeriad gweledol, gwefan a cherdyn busnes.
 

Canolfan y Mileniwn Cymru


Mae CMC yn ddi-os ymhlith y datblygiadau mwyaf cyffrous yn y celfyddydau yn Ewrop heddiw ac yn brysur cymryd ei lle ochr yn ochr â chanolfannau perfformio’r celfyddydau mwyaf blaenllaw y byd.

Ffwrnais o greadigrwydd yw CMC, lle bydd gwaith creadigol yn cael ei ddeor, ei ddatblygu a’i gynhyrchu yn feunyddiol gan y gwahanol gwmnïau celfyddydol sydd â’u cartref yno. Yn ogystal â’u gwaith eu hunain, byddant yn cyfrannu at bob agwedd ar raglen y Ganolfan.

Bu Stills yn gyfrifol am ddylunio a datblygu, ar y cyd â’n partneriaid ar yr ochr dechnegol, Fusion, gwefan e-fasnach ac e-docynnau Canolfan Mileniwm Cymru, sydd newydd fynd yn fyw.

UPower


Mae Upower yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion dosbarthu trydan bwsbar sydd yn anhebyg i unrhyw rai eraill ar y farchnad heddiw.

Mae eu presenoldeb byd-eang a’u dyluniadau dan batent wedi eu galluogi i osod eu cynhyrchion mewn adeiladau o fri ar draws y byd.

Enillodd Stills y prosiect i ddatblygu cymeriad gweledol brand byd-eang newydd i Upower gan gynnwys nod masnach, llenyddiaeth, gwaith pacio’r cynnyrch a phaneli arddangosfa. Bydd y fenter newydd yn cael ei lawnsio’n swyddogol mewn dau ddigwyddiad yn ystod y flwyddyn – un yn Old Trafford ac un yn Stamford Bridge – gyda Sir Bobby Charlton yn arweinydd y digwyddiad.

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru


Adran annibynnol o’r llywodraeth yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd a sefydlwyd drwy Ddeddf Seneddol yn 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau cwsmeriaid mewn perthynas â bwyd.

Enillodd Stills gais cystadleuol i ddatblygu cyfres o gemau rhyngweithiol i’w defnyddio ar eu bws addysgu teithiol. Byddant yn parhau i hybu a chryfhau negeseuon ynglŷn â diogelwch bwyd a bwyta’n iach sydd yn cael eu targedu at blant o bump oed a hŷn.

Fusion


Cwmni datrysiadau rhyngrwyd blaenllaw yw Fusion, yn cynnig datblygiad rhyngrwyd, mewnrwyd ac allrwyd.

Mae Stills wedi gweithio gyda Fusion fel partner strategol ar nifer o brosiectau datblygu ar gyfer y we. Mae Stills hefyd wedi datblygu nod masnachol, cymeriad gweledol brand, a holl lenyddiaeth a hysbysebu Fusion. Yn fwyaf diweddar apwyntiwyd Stills i wneud gwaith rheoli prosiect a dylunio mewnol eu swyddfeydd corfforaethol newydd yng nghanol Caerdydd.
 

BT


Cyflenwr datrysiadau cysylltiadau blaenllaw yw BT, yn gwasanaethu cwsmeriaid ar draws y byd.

Yn ddiweddar penodwyd Stills i ddylunio a ffitio bws addysgu BT sy’n cael ei ddefnyddio mewn digwyddiadau cenedlaethol i hybu ymwybyddiaeth

Evan Evans


Bragdy bach wedi ei seilio yn Llandeilo yw Evan Evans sydd yn cynhyrch cwrw o’r radd flaenaf ar gyfer tafarndai unigol a grwpiau o dafarnau yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae Stills wedi datblygu perthynas gref ag Evan Evans ac wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu eu harddull gweledol; ac yn enwedig cyfres o glipiau pwmp sydd yn hyrwyddo eu gwahanol fathau o gwrw.

Mi Su


Mae tegannau rhyw eisoes wedi ennill eu plwyf gyda’r cyhoedd, ond mae MI-SU wedi mynd cam ymhellach drwy greu tegannau crefftus o ddeunyddiau bendigedig sydd hefyd wedi eu dylunio i fod yn ymarferol iawn.

Mae MI-SU wedi cyfuno gemwaith a deunyddiau lled-ddrydfawr i greu tegannau rhyw hyfryd sy’n cyfuno ffurf a swyddogaeth. Wedi eu gwneud o ditaniwm solet, cwarts rhosyn ac obsidian, ac wedi eu haddurno â deiamwntau, saffir a gemau drydfawr a lled-ddrydfawr eraill, mae’r dewis yn addurniadol ac yn llawn hwyl.

Bu Stills yn cydweithio’n glòs â MI-SU i ddatblygu eu brand, cymeriad gweledol a deunyddiau cysylltiadau gan gynnwys llenyddiaeth, lluniau, hysbysebu a marchnata uniongyrchol.
 

S4C


Ers 1982 mae pob rhaglen deledu yn Gymraeg, o bob ffynhonnell, wedi cael eu darlledu gan S4C i greu un gwasanaeth cynhwysfawr drwy gyfrwng y Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae S4C wedi datblygu rôl nodweddiadol mewn darparu darlledu gwasanaeth cyhoeddus i gymuned ddwyieithog. Yn fwy diweddar, mae technoleg newydd, megis dyfodiad teledu digidol ym 1998, wedi galluogi S4C i ymestyn y rôl hwnnw drwy sefydlu amrywiaeth o wasanaethau.

Bob blwyddyn bydd S4C yn mynychu nifer o ddigwyddiadau awyr agored drwy Gymru benbaladr i hyrwyddo’r sianel a’r gwasanaeth, a’r mwyaf o rhain yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd sydd yn denu miloedd o ymwelwyr.

Enillodd Stills y tendr i ddylunio, adeiladu a rheoli eu gofod arddangos mewn pob digwyddiad dros gyfnod o dair blynedd. Rhaid i’r stondin hyrwyddo eu cynhyrchion craidd, rhaglenni plant, cerddoriaeth a chwaraeon ac hefyd creu lle ar gyfer siop, ardal arddangos, dwy theatr, ystafell groesawu, lle chwarae i’r plant, ystorfa a lle i eistedd y tu allan.

Corus


Cwmni byd-eang yw Corus sydd yn cynhyrchu, prosesu a dosbarthu cynhyrchion dur ac alwminiwm.

Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau dylunio, technoleg ac ymgysylltu. Ers 1998 rydym wedi bod wrthi yn datblygu eu cynhyrchion a’u llenyddiaeth corfforaethol, eu hymgyrchoedd marchnata uniongyrchol, gwefan a systemau arddangosfa.

Yn ddiweddar iawn comisiynwyd Stills i ddatblygu ymgyrch i hybu pwysigrwydd amrywiaeth yng ngweithle Corus. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys fideo hyfforddi corfforaethol, cyflwyniad lawnsio, llawlyfr staff, llawlyfr rheolwyr, llyfryn polisi a phosteri hyrwyddo.

Madbag


Yn gwmni newydd gyda syniad newydd arloesol, mae Madbag yn creu bagiau wedi eu dylunio’n arbennig ar gyfer pobl broffesiynol yn y diwydiant theatr a ffilm. Mae pob bag wedi ei bersonoleiddio ar gyfer yr unigolyn a’r cynhyriad y maent yn gweithio arno.

Mae Stills wedi cydweitho â Madbag i ddatblygu eu syniadau ac i greu logo a chymeriad gweledol.

Boss


Wedi ei sefydlu ym 1983, mae Boss Design yn arweinydd ym marchnad seddi y DU.

Ar flaen y gad mewn dylunio Prydeinig, mae Boss yn cynnig ystod gynhwysfawr o gelfi swyddfa gan gynnwys clustogwaith, casgliadau o seddi ar gyfer cyfarfodydd ac ar gyfer tasgau arbennig, gyda byrddau sy’n matshio, a dylunio cynnyrch ar gais. Gyda rhestr o gleientiaid mwyaf dewisol, mae Boss wedi ymestyn i fewn i’r farchnad fyd-eang ac wedi ymsefydlu fel gwneuthurwr seddi ymhlith y mwyaf cynhwysfawr.

Mae Stills wedi cyd-weithio â Boss ar nifer o brosiectau gan gynnwys datblygu cymeriad gweledol eu brand, eu portffolio o lenyddiaeth ac yn enwedig eu hysbysebu.

Castleoak


Castleoak yw cwmni mwyaf blaenllaw y DU am ddylunio ac adeiladu cartrefi gofal arbenigol ac mae’n weithredol yn y sectorau preifat, elusen ac ‘nid er mwyn elw’. Hyd heddiw maent wedi dylunio ac adeiladu rhagor na 4,500 o welyau mewn cartrefi pwrpasol drwy’r DU.

Mae Stills wedi gweithio gyda Castleoak am dros ddeuddeg o flynyddoedd ac newydd orffen ail-wampio trylwyr o’u cymeriad gweledol gan gynnwys eu marc logo, llenyddiaeth farchnata a’u gwefan.

Silverbeck Rymer


Cwmni sefydlog a phrofiadol o gyfreithwyr yw Silverbeck Rymer Solicitors sydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys yswiriant hawlydd a diffynnydd, twyll a chyflogaeth. Gyda seiliau yn Llundain, Chelmsford a Lerpwl, eu nod yw ennill y blaen fel darparydd gwasanaethu cyfreithiol i’r farchnad yswiriant a brocer yn y DU.

Enillodd Stills gynnig cystadleuol yn erbyn tair asiantaeth arall ac ers hynny maent wedi bod yn cydweitho’n glòs â Silverbeck Rymer i ddatblygu glasbrint eu brand, marc logo, cymeriad gweledol a chanllawiau brand. Bydd prosiectau’r dyfodol yn cynnwys datblygu portffolio o lenyddiaeth, ac ymgyrchoedd hysbysebu a marchnata uniongyrchol.

Farrell


Yn ddiweddar fe gafodd Stills eu comisiynu gan Farrell, un o wneuthurwyr celfi mwyaf y DU ac Iwerddon, i lawnsio Partners – eu cynnyrch celfi newydd ar gyfer systemau swyddfa – yn arddangosfa bernsaernïol Plan Expo yn Nulyn.

Roedd Stills yn gyfrifol am waith rheoli prosiect yr holl ddigwyddiad oedd yn cynnwys datblygu llenyddiaeth newydd ar gyfer y cynnyrch, gwahoddiadau a phecynnau teithio, cydlynu ehediadau a llety ar gyfer trigain o westeion arbennig, adloniant, a’r lawnsiad ei hun.

Roedd Farrell wrth eu bodd â’r digwyddiad ac fe ddychwelodd y cleientiaid oll adref yn hapus a diogel.

Bwrdd yr Iaith Gymraeg


Wedi ennill y gystadleuaeth i ail-frandio Bwrdd yr Iaith, mae Stills wedi ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno ymgyrch wedi ei integreiddio i’r cyfryngau.
Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o’r manteision o siarad Cymraeg ac fe fydd yn cynnwys teledu, hysbysfyrddau a chefnau bysys drwy Gymru benbaladr. Mae’r ymgyrch yn rhedeg dros gyfnod o dri mis drwy fis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd.